♫musicjinni

Cymru 2-1 Croatia | Wales 2-1 Croatia | Uchafbwyntiau | Highlights

video thumbnail
Cymru 2-1 Croatia | Wales 2-1 Croatia | Uchafbwyntiau | Highlights

Fe gurodd Cymru Croatia o 2-1 yng Nghaerdydd nos Sul gyda dwy gôl gan Harry Wilson yn cadw eu gobeithion yn fyw o gyrraedd Euro 2024 yn yr Almaen.

Gyda’r amddiffynnwr Ben Davies yn arwain ei wlad roedd Cymru’n croesawu nôl David Brooks oedd yn dechrau yn lle Daniel James.

Fe ddechreuodd Cymru’r gêm yn bwrpasol gyda Neco Williams yn rhydd ar yr asgell chwith ac yn croesi i’r cwrt ond nid oedd neb yno i fanteisio.

Fe ddaeth cyfle arall yn yr un safle i Williams ar ôl 11 munud gyda’i bas yn canfod Harry Wilson yn y cwrt ond fe gafodd ei ergyd ei arbed gan goes amdiffynwr Croatia.

Fe ddaeth cyfle cyntaf Croatia ar ôl 17 munud ond fe aeth peniad ymosodwr Croatia Petar Musa dros y trawst heb boeni Danny Ward, golwr Cymru.

Roedd Cymru’n gyffyrddus ar y bêl ac fe gyfunodd Brooks a Wilson eto ar ôl 20 munud gyda Wilson yn cael ei lorio tu allan i’r cwrt am gic gosb i Gymru gyda Domagoj Vida yn derbyn cerdyn melyn am y dacl.

Fe gymrodd Wilson y gic o 20m ac er nad oedd y bêl yn edrych yn debygol o gyrraedd i gefn y rhwyd bu'n rhaid i golwr Croatia Dominik Livakovic arbed.

Roedd Williams ar flaen y gad eto yn derbyn yr ôl-bas gan Wilson i ergydio gan orfodi Livakovic i arbed unwaith eto.

Gyda’r ddau dîm yn mantoli’r meddiant yng nghanol cae, prin oedd y cyfleon. Daeth hanner cyfle i Gymru ychydig cyn yr egwyl ond methodd Wilson â manteisio’n llwyr ar beniad ymlaen Kieffer Moore.

Y sgôr ar yr egwyl: Cymru 0-0 Croatia.


Gorfoledd

Fe ddechreuodd Croatia’s ail hanner trwy wthio eu chwaraewyr yn uwch i fyny’r cae.

Ond wrth wneud hynny rhoddodd hyn gyfle i Gymru gyda Brooks yn pasio ymlaen y bêl hir gan y golwr ward i Harry Wilson godi’r bêl dros Livakovic i ddodi Cymru ar y blaen yn haeddiannol o 1-0 ar ôl 46 munud i ddathlu ei 50ed cap mewn steil.

Fe ddaeth hanner cyfle i Moore yn fuan wedyn ond method â manteisio'n llawn ar bas Jordan James.

Roedd Brooks yn sicr yn un o sêr Cymru ond bu'n rhaid iddo adael y cae ar ôl 57 munud gyda Daniel James yn cymryd ei le.

Roedd Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth gyfyngu ymdrechion Croatia ac fe aeth ergyd Marcelo Brozovic ymhell heibio gôl Cymru.

Fe wnaeth Dan James argraff arbennig yn gyflym wrth i'w groesiad ddod o hyd i ben Wilson wnaeth wyro'r bêl i mewn i'r rhwyd i orfoledd y Wal Goch am ei ail gôl ar ôl 59 munud. Cymru 2-0 Croatia.

Yn sicr dyma un o berfformiadau gorau Cymru yn y blynyddoedd diwethaf yn erbyn tîm sydd yn y trydydd safle ymhlith detholion y byd.

Fe ddaeth cyfle i Dan James ar y chwith ar ôl 68 munud ond fe wyrodd ei ergyd heibio’r postyn pellaf.

Gydag 20 munud yn weddill roedd Croatia wedi cael 71% o'r meddiant yn ystod y gêm ond Cymru oedd wedi mwynhau y gorau o'u cyfleon.

Gyda Croatia yn cwrso’r gêm fe ddaeth eu cyfle gyda Mario Pasalic yn penio i gefn y rhwyd am gôl i’r ymwelwyr.

Yn sydyn roedd y fantol wedi newid o blaid Croatia gyda Chymru o dan bwysau ac yn cael eu gorfodi i amddiffyn yn fwy.

Fe adawodd Wilson y cae ar ôl 80 munud gyda Nathan Broadhead yn cymryd ei le wrth i ymosodiadau Croatia ddwysáu ym munudau olaf y gêm.

Roedd y dorf ar bigau'r draen wrth i bum munud ychwanegol gael eu hychwanegu a bu'n rhaid i Ward ddod i'r adwy ddwywaith i arbed ymdrech arall gan Croatia.

Ond fe lwyddodd Cymru rywsut i wrthsefyll ymdrechion Croatia am fuddugoliaeth nodedig.

Y sgôr terfynol: Cymru 2-1 Croatia.

Cenedl Pêl-Droed Annibynnol | Wales: Independent Football Nation | S4C

PÊL-DROED BYW/LIVE FOOTBALL: Cymru D21 v Gibraltar D21 | Gêm ragbrofol #U21EURO

Cymru 1-2 Yr Iseldiroedd | Wales 1-2 Netherlands | UEFA Nations League highlights

Cymru 1-1 Gwlad Belg | Wales 1-1 Belgium | UEFA Nations League highlights

Yma o Hyd - Dafydd Iwan | Dafydd Iwan sings Yma o Hyd with lyrics and English translation | S4C

Cymru yn Qatar: UDA v CYMRU | Wales' World Cup Preview Show | S4C

S4C: NEW SERIES! Byd Pêl-droed Osian Roberts

Yr Iseldiroedd 3-2 Cymru | Netherlands 3-2 Wales | UEFA Nations League highlights

PÊL-DROED: Ian Rush, Cyfarwyddwr Elît Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru

Cymru 0-1 Gwlad Pwyl | Wales 0-1 Poland | UEFA Nations League Highlights

Gwlad Belg 2-1 Cymru | Belgium 2-1 Wales | Uchafbwyntiau | Highlights Nations League Uefa

Yr Anthem. Arbennig | Hen Wlad Fy Nhadau | Cymru v Gwlad Pwyl | Wales v Poland Polska | Euro 2024

Newyddion S4C wedi gem Cymru v Wcrain | Iwan Rowlands, Cledwyn Ashford | 05.06.22

Brennan Johnson | Cymru v Yr Iseldiroedd | UEFA Nations League

SPINE-TINGLING! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Dafydd Iwan belts out Yma o Hyd before Wales vs Austria!

Belgium v Cymru MD-1 training (UEFA Nations League)

Pêl-droed Cymru | Welsh Football | Brazil 2014

YMA O HYD - DAFYDD IWAN x AR LOG x THE RED WALL (OFFICIAL CYMRU WORLD CUP 2022 SONG)

"𝐘𝐌𝐀 𝐎 𝐇𝐘𝐃!" 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Wales players and fans celebrate qualifying the 2022 FIFA World Cup!

England v Wales 1966, Wyn Davies Goal

Uchafbwyntiau | Highlights: Cymru 0-0 Gwlad Pwyl | Wales 0-0 Poland | Gemau Ail Gyfle UEFA Euro 2024

Sgorio - Cymru v Costa Rica (S4C)

Croatia 1-1 Cymru | Wales | Highlights | Uchafbwyntiau Euro 2024 Qualifying

GOOSEBUMPS! Wales fans deliver incredible rendition of the national anthem

Rubin Colwill | Caerdydd, Cymru a Chwpan y Byd

Rhyl (2) v Newtown (2) Welsh Premier Football Rhyl 2nd Goal! Wales

Rob Page: "Everytime we play Belgium we know that we're in for a tough game" | UEFA Nations League

De Cymru 2-4 Gogledd Cymru | Uchafbwyntiau

Gwlad Pwyl 2-1 Cymru | Poland 2-1 Wales | UEFA Nations League highlights

Chris Coleman: 'you never spell Wales with a 'Q'...'

Disclaimer DMCA