Croatia 1-1 Cymru | Wales | Highlights | Uchafbwyntiau Euro 2024 Qualifying |
|
Croatia 1-1 Cymru | Wales | Highlights | Uchafbwyntiau Euro 2024 Qualifying
Gôl Broadhead yn hawlio pwynt gwerthfawr i Gymru yn erbyn Croatia Fe sgoriodd Nathan Broadhead ar ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf wrth i Gymru hawlio pwynt gwerthfawr oddi cartref yn erbyn Croatia yn y gêm gyntaf yn eu hymgyrch ragbrofol UEFA Euro 2024. Fe sgoriodd yr asgellwr ar ôl 93 munud wrth i Gymru gipio pwynt hollbwysig ar ôl perfformiad llawn egni a chalon gan dîm Rob Page yn yr ail hanner. Er y newidiadau yng ngharfan Cymru, roedd nifer o wynebau cyfarwydd a phrofiadol yn nhîm Rob Page nos Sadwrn, gyda’r capten Aaron Ramsey, Connor Roberts, Dan James a Kieffer Moore i gyd yn dechrau. Roedd sawl un wedi rhagweld mai’r gêm yma yn Split, oddi cartref yn erbyn tîm a gyrhaeddodd rownd cyn derfynol Cwpan y Byd y llynedd fyddai’r anoddaf i’r Cymry wynebu yn y rowndiau rhagbrofol. Ac fe gymerodd y tîm cartref reolaeth o’r meddiant o’r gic gyntaf, gyda golwr Cymru Danny Ward yn gwneud arbediadau da i ergydion gan Luka Modric ac Andrej Kramaric yn y munudau agoriadol. Aeth Croatia ar y blaen ar ôl 28 munud, gyda Kramaric yn gorffen yn gelfyd o ddeunaw llath i ganfod congl gwaelod y rhwyd. Roedd Cymru yn ffodus i beidio ildio mwy yn yr hanner gyntaf, wrth i Croatia fethu a chymryd sawl cyfle da. Yr agosaf ddaeth Cymru i sgorio yn y 45 munud agoriadol oedd pan gafodd cic rydd gan Harry Wilson ei wyro llathen dros y trawst. Ail hanner llawn egni Fe ddechreuodd Cymru’r ail hanner gyda mwy o egni yn eu chwarae, gan roi’r tîm cartref dan bwysau gwirioneddol. Daeth Cymru’n agos ar ôl 60 munud, wrth i Dan James daro foli heibio’r postyn ar ôl rhediad a chroesiad deallus gan Harry Wilson. Penderfynodd Rob Page wneud newidiadau ysgubol ar ôl awr o’r chwarae, gan dynnu Ramsey, Wilson, James a Moore i ffwrdd, a chyflwyno Sorba Thomas, Wes Burns, Nathan Broadhead a Tom Bradshaw i’r maes. Cafodd Neco Williams gyfle i ergydio ar ôl 72 munud, ond fe gyfeiriodd ei ymdrech uchelgeisiol dros y trawst. Ar ben arall y cae, fe darodd Perisic y trawst gyda foli bwerus o’r asgell chwith, wrth i’r Croatia edrych am eu hail. Ond ar ôl tri munud o amser ychwanegol, fe lwydodd Broadhead i wasgu’r bêl mewn i’r rhwyd ar y postyn pellaf ar ôl i Chris Mepham benio tafliad hir Connor Roberts tuag ato, gan hawlio pwynt allweddol dros ei wlad. Bydd Cymru yn gobeithio adeiladu ar y perfformiad pan fyddant yn wynebu Latfia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth. |